Swydd: Gweinyddydd dwyieithog yn y diwydiant adeiladu

This page is also available in English.

Dyma gyfle i helpu tyfu busnes dynamig gydag enw da iawn yn y diwydiant adeiladwaith.

Fel gweinyddwr yn ACOP Group byddech yn gweithio fel aelod o dîm cyfeillgar i alluogi hyfforddiant ar beiriannau a bod yn gyfrifol am drefniant cwmni o ddydd i ddydd.

Nid oes angen profiad o’r diwydiant adeiladu, ond mae disgwyl i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o brofiad swyddfa perthnasol a bod yn drefnus iawn a gofalus.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Prif ddyletswyddau

  • Helpu gyda gweinyddiaeth/darpariaeth o brawf iechyd, diogelwch ac amgylchedd CITB.
  • Cyhoeddi prawf CPCS (Construction Plant Competence Scheme) a chadw cofnodion sain a phapur.
  • Cadw calendr ar y cyd i sicrhau bod hyfforddwyr, cyrsiau ac asesiadau yn cael eu cynllunio’n effeithiol.
  • Creu a chadw systemau ffeilio.
  • Paratoi gwaith papur ar gyfer cyrsiau.
  • Cadw cronfa ddata o gleientiaid.
  • Sicrhau bod cofnodion DPP yn cael eu cadw.
  • Cyfathrebu gydag archwiliwr allanol.
  • Cefnogi gyda diweddariadau i’r wefan WordPress a dros gyfryngau cymdeithasol.
  • Trefnu cyfarfodydd tîm a chymryd cofnodion.
  • Cymryd taliadau.
  • Sicrhau bod holl gofnodion ac ardystiadau yn gyfamserol yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
  • Cadw cofnodion a dogfennaeth ar osodiadau a gwasanaethau’r peiriannau.
  • Delio gydag ymholiadau dros e-bost/ffôn
  • Mynychu a chynllunio digwyddiadau gwerthi

Cyflog

Cyflog gweinyddwr £21,000 per annum (40 awr)

Polisi

Mae polisi cyfleoedd cyfartal ACOP Group yn ystyried pob ymgeisydd medrus heb wahaniaethu ar unrhyw sail megis rhyw, ethnigrwydd, lliw, crefydd, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, oedran, anabledd, neu ffactor arall.

Dyddiad cau

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:

Dydd Llun 17 Mehefin 2019 am 12 hanner dydd

Anfonwch CV a llythr eglurhaol i sion@acopgroup.com

Submit a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.